Y Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi – Cofnodion - 2 Mawrth 2023
Yn bresennol:
John Griffiths AS – Cadeirydd
Steffan Evans – Sefydliad Bevan (Ysgrifenyddiaeth)
Jane Hutt AS – Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol
Jane Dodds AS
Amy Bainton – Barnardo’s
Viki Baltzars – Trivallis
Andrew Bettridge – Swyddfa John Griffiths AS
Cherrie Bija – Ffydd mewn Teuluoedd
Zoe Charlesworth – Policy in Practice
Alex Clegg – Polisi ar Waith
Karen Davies – Purple Shoots
Amy Dutton – Cyngor ar Bopeth Cymru
Emma Denholm-Hall – Swyddfa Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol
Danny Graham – Heledd Fychan AS
Sarah Germain – FareShare
Sally Hunt – Llywodraeth Cymru
Kelly Huxley-Roberts
Jamie Insole – Undeb y Prifysgolion a'r Colegau
Lindsey Kearton – Cyngor ar Bopeth
Susan Lloyd-Selby – Ymddiriedolaeth Trussell
Maria Marshall – Rhwydwaith Cymorth Bwyd
Gareth Morgan – Ferret Information Systems
Katie Palmer – Synnwyr Bwyd Cymru
Jack Rowlands – Policy in Practice
George Watkins – Mind
Bethan Webber – Home-Start Cymru
Liz Williams – RNIB
Cofnodion y cyfarfod
1. Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.
2. Cyn cyflwyno'r siaradwr cyntaf, esboniodd y Cadeirydd wrth aelodau bod newid wedi bod i'r agenda. Y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt AS, fyddai'n siarad yn gyntaf, gyda Policy in Practice yn cyfrannu ar ôl hynny.
3. Gwahoddodd y Cadeirydd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol i ddechrau'r sesiwn gyntaf, lle rhoddodd ddiweddariad ar waith Llywodraeth Cymru o ran mynd i'r afael â'r argyfwng costau byw.
4. Rhoddodd y Gweinidog y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed gan Lywodraeth Cymru ar draws nifer o wahanol raglenni a pholisïau. Roedd y pwyntiau a wnaed gan y Gweinidog yn cynnwys y canlynol:
a. Nododd y Gweinidog ddiddordeb Llywodraeth Cymru yn y gwaith sydd wedi ei wneud ar system fudd-daliadau i Gymru, ac roedd hi'n awyddus i glywed mwy am y gwaith a wnaed gan Policy in Practice, fel y nodwyd yn yr ail eitem ar yr agenda.
b. Pwysleisiodd y Gweinidog bwysigrwydd y Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor i Lywodraeth Cymru, gan atgoffa rhai a oedd yn bresennol bod Llywodraeth Cymru wedi gwario £244 miliwn ar y cynllun yn flynyddol wrth gynorthwyo 270,000 o aelwydydd.
c. Mae disgwyl y bydd cyllid ar gyfer cynnig gofal plant Llywodraeth Cymru yn cynyddu dros y ddwy gyllideb nesaf, gan godi i £86.5 miliwn yn y flwyddyn ariannol 2024/25.
d. Mae'r gwaith o gyflwyno prydau ysgol am ddim i bob plentyn yn mynd yn ei flaen yn dda gyda 45,000 o blant dosbarth derbyn ychwanegol bellach yn derbyn prydau ysgol am ddim.
e. Mae'r Grant Hanfodion Ysgolion wedi disodli'r Grant Datblygu Disgyblion (Mynediad). Yn y flwyddyn ysgol nesaf, bydd gan blant ym mhob grŵp blwyddyn hyd at flwyddyn 11 hawl i £125, gyda £200 ar gael i blant ym mlwyddyn 7.
f. Mae £25 miliwn o gyllid dewisol wedi ei roi i awdurdodau lleol yn y flwyddyn ariannol bresennol i gefnogi teuluoedd. Mae'r Gweinidog yn awyddus i ymchwilio i sut y cafodd yr arian hwnnw ei ddefnyddio i weld pa wersi y gellir eu dysgu am gefnogi pobl.
g. Ers 17 Chwefror, cafwyd 323,251 o daliadau eu gwneud trwy Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru. Mae hyn ddwywaith nifer yr aelwydydd a elwodd o'r cynllun yn ystod y gaeaf blaenorol. Ni fydd y cynllun yn cael ei ail-redeg, oherwydd diffyg cyllid gan Lywodraeth y DU.
h. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth gyda’r Sefydliad Banc Tanwydd i ehangu eu cynllun talebau tanwydd i Gymru, gyda Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £4 miliwn.
i. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £10 miliwn er mwyn atal digartrefedd ac i gynnal y polisi ‘neb heb help’.
j. Tynnodd y Gweinidog sylw'r aelodau at ddatganiad ysgrifenedig yr oedd hi wedi'i gyhoeddi ar y Gronfa Cymorth Dewisol. Cadarnhaodd y datganiad y byddai'r gyllideb ar gyfer y gronfa yn barhau i fod yn £38.5 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf ac roedd ei datganiad yn cynnwys mwy o wybodaeth am sut y byddai'r cynllun yn gweithredu.
k. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £4.9 miliwn i daclo tlodi bwyd yn y flwyddyn ariannol hon ac mae'n awyddus i hybu gwytnwch yn y sector drwy gefnogi sefydliadau bwyd cymunedol.
l. Galwodd y Gweinidog ar aelodau i gefnogi ymgyrch ‘hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi’ Llywodraeth Cymru a’i gwaith i ddiweddaru ei strategaeth tlodi plant, a fydd yn agor ar gyfer ymgynghoriad dros y misoedd nesaf.
m. Nododd y Gweinidog y byddai diweddariad ar gynnydd y cynllun peilot incwm sylfaenol ar gyfer pobl ifanc sy’n gadael gofal yn cael ei gyhoeddi'n fuan.
5. Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog am ei chyfraniad, gan wahodd cwestiynau o'r llawr. Gofynnwyd ystod eang o gwestiynau, a chodwyd nifer o bwyntiau. Roedd y materion a ganlyn ymhlith y rhai a drafodwyd:
a. Pwysigrwydd y gronfa argyfwng ar gyfer menywod nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.
b. Pa wersi y gellir eu dysgu a’u rhoi ar waith mewn mannau eraill o'r ffaith bod mwy o bobl yn manteisio ar Gynllun Cymorth Tanwydd Llywodraeth Cymru ar ei ffurf ddiweddaraf?
c. Oes yna gyfleoedd i ddatganoli’r Cynllun Dechrau'n Iach yn llawn, o ystyried ei fod yn gysylltiedig â'r cynllun Saesneg ar hyn o bryd?
d. Sut allwn ni ysgogi cadwyni cyflenwi lleol yn well er budd economïau lleol ac i sicrhau diogelwch bwyd ac ynni?
e. Faint o'r £4 miliwn ychwanegol i ddatrys tlodi bwyd fydd yn cael ei wario ar gymorth bwyd a faint fydd yn cael ei wario ar atal angen?
f. I ba raddau mae gwaith ar dlodi yn cyfrannu at strategaeth iechyd meddwl diweddaraf Llywodraeth Cymru?
6. Wrth ymateb i'r cwestiynau:
a. Cydnabu’r Gweinidog bwysigrwydd darparu cymorth i fenywod nad oes ganddynt hawl i gyllid cyhoeddus sy'n cael eu heffeithio gan gam-drin domestig.
b. Dywedodd ei bod yn credu bod gwersi i'w dysgu o'r niferoedd uwch sy'n manteisio ar y Cynlluniau Cymorth Tanwydd, yn enwedig o ran gweinyddu budd-daliadau. Mae rhai awdurdodau lleol wedi gweld mwy o bobl yn manteisio ar hwn nag eraill ac mae'r Gweinidog yn credu bod y defnydd cynyddol o awtomeiddio wedi chwarae rhan hanfodol i gynorthwyo'r awdurdodau lleol sydd wedi gwneud yn well wrth ddosbarthu’r arian. Roedd cyfanswm o 11 allan o 22 awdurdod lleol yn defnyddio system awtomataidd.
c. Nododd ei bod yn gweithio'n agos gyda Lynne Neagle AS, sy'n gyfrifol am y Cynllun Cychwyn Iach. Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n edrych ar yr hyn y gellir ei wneud i gynyddu’r nifer sy'n manteisio ar y cynllun a bydd y Gweinidog yn trosglwyddo sylwadau'r grŵp trawsbleidiol i'r tîm sy'n gweithio ar hyn.
d. Datgelodd y Gweinidog ei bod yn cyfarfod â Lesley Griffiths AS i drafod materion yn ymwneud â chaffael a diogelwch bwyd, ac mae'n credu ei bod yn ystyried hwn yn fater traws-lywodraethol.
e. Dywedodd ei bod yn awyddus i weithio gyda'r sector i archwilio'r dull gorau o fynd i'r afael â thlodi bwyd ac y byddai'n croesawu ymgysylltu â phobl sydd â diddordeb.
f. Mynegodd ei chred fod y cwestiwn ar dlodi ac iechyd meddwl yn pwysleisio sut mae tlodi yn fater trawsbynciol a nododd y byddai'n rhannu barn y grŵp gyda Lynne Neagle AS sydd yn uniongyrchol gyfrifol am y maes polisi hwn.
7. Diolchodd y Cadeirydd i'r Gweinidog am ei hamser a symudodd ymlaen i'r ail eitem ar yr agenda, sef cyflwyniad gan Policy in Practice ar eu gwaith ar system fudd-daliadau i Gymru.
8. Zoe Charlesworth oedd yn siarad yn gyntaf ar ran Policy in Practice. Ar ôl rhoi gwybodaeth gefndirol gychwynnol am y gwaith y mae Policy in Practice yn ei wneud, aeth Zoe ati i rannu canfyddiadau eu gwaith. Roedd y pwyntiau a ganlyn ymysg y prif ganfyddiadau:
a. Mae’r holl fudd-daliadau Cymreig gyda'i gilydd yn gyfystyr â gwerth £5,400 y flwyddyn i un aelwyd.
b. Gallai cael dull gweithredu ar y cyd o ran budd-daliadau Cymreig gynyddu'r nifer sy'n eu defnyddio a chaniatáu iddynt ddatblygu hunaniaeth ar wahân i'r rhai sy'n dod o San Steffan.
c. Ar hyn o bryd nid oes unrhyw ddull cyffredin o'r fath yn bodoli. Mae diffyg cydlyniant o ran budd-daliadau Cymreig a dydyn nhw ddim yn cael eu cyflwyno fel rhan o system ehangach o fudd-daliadau ledled Cymru.
d. Mae'r gofynion data gwahanol ar gyfer pob cynllun yn golygu nad oes yna gronfa ganolog o ran paru data ar draws unrhyw fudd-daliadau Cymreig, ond mae yna gyfle i wneud mwy o'r data sy'n bodoli. Mae hyn yn cynnwys gwneud gwell defnydd o'r data i nodi cymhwysedd, gan ddefnyddio gwybodaeth Credyd Cynhwysol i awtomeiddio’n rhannol y broses o ymgeisio a dyfarnu ar gyfer mwyafrif yr ymgeiswyr am brydau ysgol am ddim ac am ostyngiad yn y dreth gyngor, a gwneud gwell defnydd o ddata gwirio i leihau'r angen i ymgeiswyr rannu gwybodaeth.
e. Mae rhwystrau rhag sefydlu system gydlynus o fudd-daliadau i Gymru. Mae'r rhain yn cynnwys risgiau o ran ddibyniaeth gynyddol ar ddata allanol (e.e. Credyd Cynhwysol), protocolau rhannu data, costau cynyddu’r niferoedd sy’n manteisio, rhwystrau o ran glynu wrth ffyrdd hanesyddol o weithio, a rhwystrau technolegol gan gynnwys trefniadau cytundebol hirdymor gyda darparwyr TG cyfredol.
f. I oresgyn y rhwystrau hyn, argymhellir defnyddio dull graddol o weithredu system fudd-daliadau i Gymru. Er mwyn dechrau gweithredu, dylai Llywodraeth Cymru edrych ar hyn y gellir ei gyflawni'n weddol ddidrafferth, gan gynnwys sicrhau bod gan bob budd-dal Cymreig ddyluniad cydlynus, adolygu gofynion dal data, a chytuno ar ddull cyffredin o ddefnyddio data Credyd Cynhwysol yng ngheisiadau Credyd Cynhwysol. Yn y tymor hwy, dylai Llywodraeth Cymru anelu at sefydlu porth cais digidol cyffredin er mwyn sefydlu un ffurflen gais ddigidol ac awtomataidd. Mae cyrraedd cytundebau rhannu data gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau hefyd ymhlith y mesurau eraill yn y tymor hwy.
9. Yn dilyn cyflwyniad Zoe, rhoddodd Alex Clegg o Policy in Practice drosolwg byr o’r hyn a amcangyfrifwyd ganddynt o ran goblygiadau ariannol y cynnydd yn y niferoedd sy’n manteisio ar fudd-daliadau:
a. Maen nhw'n amcangyfrif y byddai'r cynnydd yn y niferoedd a fyddai'n dilyn creu system fudd-daliadau i Gymru yn costio tua £75 miliwn, gyda'r mwyafrif helaeth (£68 miliwn) yn gysylltiedig â’r cynnydd yn y nifer sy'n manteisio ar y Cynllun Gostyngiadau Treth Cyngor.
b. Er y byddai cynnydd yn y niferoedd sy’n manteisio ar fudd-daliadau Cymreig yn golygu goblygiadau o ran costau, gallai fod manteision ariannol hefyd, i economïau lleol wrth i bobl wario'r buddion ychwanegol y maent yn eu derbyn, ac i wasanaethau cyhoeddus os oes llai o alw am wasanaethau iechyd neu wasanaethau digartrefedd, er enghraifft.
10. Diolchodd y Cadeirydd i Zoe ac Alex am eu cyflwyniadau a gofynnodd i'r rhai oedd yn bresennol anfon unrhyw gwestiynau sydd ganddynt at Steffan Evans, ysgrifennydd y grŵp.
11. Trosglwyddodd y Cadeirydd yr awenau i Jane Dodds AS ar gyfer yr eitem olaf ar yr agenda. Jane Dodds AS yw Cadeirydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd ac mae'n awyddus i archwilio cyfleoedd i gydweithio â'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi.
12. Nododd Jane Dodds AS fod gan y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd bedair thema ar gyfer y flwyddyn, gan gynnwys tlodi. Awgrymodd y gallai'r grwpiau trawsbleidiol gynnal cyfarfod ar y cyd yn yr hydref lle byddent yn gweithio gyda'i gilydd i archwilio'r materion, ac y gallai gwahodd y Gweinidogion perthnasol a'r Prif Weinidog i'r sesiwn.
13. Dywedodd y Cadeirydd bod hwn yn rhywbeth yr oedd e’n awyddus i'w fynd ar ei drywydd a'i fod yn gobeithio y gallai'r ysgrifenyddiaeth ar gyfer y ddau grŵp fynd â'r syniad ymlaen yn y lle cyntaf.
14. I gloi ei sesiwn, estynnodd Jane Dodds AS wahoddiad i bob aelod o'r Grŵp Trawsbleidiol ar Dlodi i ymuno â chyfarfodydd y Grŵp Trawsbleidiol ar Blant a Theuluoedd os oedd ganddynt ddiddordeb yn eu gwaith.
15. Diolchodd y Cadeirydd i bawb am ddod a daeth â'r cyfarfod i ben.